Gwybodaeth am y Bwrdd Gwasanaethau Lleol
Mae gan Sir Gaerfyrddin record arbennig o dda am weithio mewn partneriaeth rhwng y Cyngor, y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol ac mae wedi datblygu Bwrdd Gwasanaethau Lleol.
Mae’r "Bwrdd" hwn yn croesi'r ffiniau sefydliadol a diwylliannol arferol i ddatblygu 'gwasanaeth cyhoeddus' a fydd yn canolbwyntio ar gwsmeriaid a'r math ar wasanaeth sydd ei angen a'i eisiau arnynt.
Beth yw hwn?
Trefniant gwirfoddol yw'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLL) sy'n dwyn ynghyd arweinwyr a phrif weithredwyr o sefydliadau allweddol, cynrychiolwyr o'r sectorau gwirfoddol a chymunedol, ac uwch was sifil o Lywodraeth Cymru.
Ei ddiben yw cynllunio gwasanaethau a goresgyn rhwystrau a phroblemau er mwyn sicrhau bod yr holl sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau yn Sir Gaerfyrddin yn gwneud hynny mewn modd sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf. Mae cynrychiolwyr y sector gwirfoddol yn sicrhau bod llais gan gymunedau lleol, ac ar yr un pryd mae'r uwch was sifil o Lywodraeth Cymru yn cynnig cyswllt rhwng buddiannau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae'r Bwrdd yn cwrdd bob deufis. Mae'r Bwrdd yn rhan o'r rhwydwaith ehangach o bartneriaethau a elwir gyda'i gilydd yn Bartneriaeth Sir Gaerfyrddin.
Mae’n goruchwylio datblygiad a gweithrediad y Strategaeth Gymunedol Integredig ar gyfer Sir Gaerfyrddin 2011-16 a bydd yn adrodd ar gynnydd i’r Fforwm Blynyddol.
Beth mae'n ei wneud?
Fel trefniant gwirfoddol nid oes unrhyw sail statudol iddo ar ei ben ei hun ond mae'n ddylanwadol iawn o ran arwain a chyfeirio sefydliadau partner wrth iddynt gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Wrth ddod â'r prif lunwyr penderfyniadau ynghyd, nod y Bwrdd yw ymdrin â materion sy'n croesi ffiniau – y materion hynny y mae bron yn amhosibl i un corff eu datrys ar ei ben ei hun, ond y gellir eu datrys os bydd pawb yn cydweithio i wneud gwahaniaeth.
Mae'n derbyn cyflwyniadau ac adroddiadau ar brif faterion strategol yn ogystal â derbyn diweddariadau rheolaidd ar gynnydd. Mae’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol wedyn yn adnabod y prif flaenoriaethau i weithredu arnynt ar sail aml-asiantaeth
Sut bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Mae’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu Strategaeth Gymunedol Integredig Sir Gaerfyrddin. Bydd y Bwrdd Gwasanaeth Lleol yn gweithio gyda’r partneriaethau strategol eraill i sicrhau cynnydd yn erbyn prif ganlyniadau’r strategaeth.
Pa wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud i mi?
Fel defnyddiwr gwasanaethau – drwy ymdrin â'r materion sy'n croesi ffiniau, bydd y Bwrdd yn ceisio sicrhau bod yr holl sefydliadau yn Sir Gaerfyrddin yn 'gydlynol' er mwyn gallu darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'w cwsmeriaid, nawr, ac yn y dyfodol.
Fel gweithiwr i un o'r sefydliadau sy'n bartneriaid inni – gofynnir ichi chwarae eich rhan o ran sicrhau bod y Bwrdd, yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth, yn llwyddo.