Datganiad Polisi ar iaith Gymraeg 

Bydd lansiad o ddatganiad polisi ar yr iaith Gymraeg yn digwydd yn Sir Gaerfyrddin dros yr wythnosau nesaf. Bydd y lansiad yn rhan o Ŵyl Hwyl Llandybie a gynhelir ar ddydd Sadwrn 11 Mehefin, Mabolgampau Meithrin Cwm Gwendraeth a gynhelir ar ddydd Mercher 15 Mehefin ym mharc Pontyberem am 10 o’r gloch a Gŵyl Fwyd Castell Newydd Emlyn a gynhelir ar ddydd Sadwrn 18 Mehefin.

Mae’r ddogfen wedi cael ei pharatoi gan Grŵp Partneriaeth Mentrau Sir Gâr sy’n cynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor Sir Caerfyrddin, Menter Bro Dinefwr, Menter Cwm Gwendraeth a Menter Gorllewin Sir Gâr sy’n hyrwyddo, cefnogi a sicrhau defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd Sir Gâr.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01267 224008 neu e-bostiwch IaithGymraeg@sirgar.gov.uk

Share |