Strategaeth Gymunedol Integredig Sir Gâr 2011-16
Mae Bwrdd Gwasanaeth Lleol Sir Gâr yn gofyn am eich sylwadau wrth ddatblygu Strategaeth Gymunedol Integredig ar gyfer y Sir.
Prif ddiben y Strategaeth Gymunedol Integredig yw cynnig un weledigaeth i’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol a’r Partneriaid Strategol yn Sir Gâr. Mae’r weledigaeth honno fel a ganlyn:
“Galluogi pobl i fyw bywyd iach a chyflawn drwy gydweithio i greu cymunedau cadarn, dwyieithog a chynaliadwy”
Mae’r ddogfen yn dwyn ynghyd y prif Strategaethau a chynlluniau sy’n arwain ein gwaith yn y Sir, sef,
- Y Strategaeth Gymunedol
- Cynllun Plant a Phobl Ifanc
- Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
- Strategaeth Diogelwch Cymunedol
- Strategaeth Adfywio Sir Gâr
- Cynllun Gweithredu’r Bartneriaeth Amgylchedd
Hoffwn glywed:
- Eich barn ynglŷn â’r weledigaeth a’r deilliannau
- Eich barn ynglŷn â’r meysydd gwaith blaenoriaethol yr ydym wedi eu pennu
- Os credwch bod angen ychwanegu rhai meysydd gwaith blaenoriaethol
Rydym yn gwerthfawrogi eich syniadau a sylwadau ac mae eich adborth yn bwysig i ni er mwyn sicrhau bod gennym y cydbwysedd iawn rhwng y weledigaeth a’r deilliannau ynghyd a’r gofynion cenedlaethol a’r anghenion lleol.
Os ydych yn dymuno derbyn copi caled o’r ddogfen cysylltwch gyda’r Tîm Cynllunio Cymunedol a Pholisi ar y manylion cyswllt isod.
Ar ôl darllen y cynllun drafft, gwerthfawrogwn petai modd i chi dreulio ychydig o amser yn llenwi’r ffurflen ganlynol. Unwaith y byddwch chi wedi ei llenwi,
dychwelwch y ffurflen at
Tîm Polisi a Chynllunio Cymunedol
Adran y Prif Weithredwr
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: cynlluniocymunedol@sirgar.gov.uk
Rhif ffôn: 01267 224914