Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf 

Annwyl Gyfaill,

Fel y gwyddoch, mae’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf gyfredol yn dod i ben ym mis Mawrth 2012.

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Cymunedau yn Gyntaf sydd â’r nod o fynd i'r afael â thlodi ac anfantais gymdeithasol yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru. Ers ei sefydlu yn 2001 mae’r rhaglen, sy'n gweithio trwy bartneriaethau lleol, wedi bod yn llwyddiannus wrth helpu pobl leol i ennill y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i wneud newidiadau cadarnhaol i'w cymunedau.

O fis Ebrill 2012 bydd Cymunedau yn Gyntaf yn rhedeg fel Rhaglen Gymunedol sy’n cefnogi agenda gwrthdlodi Llywodraeth Cymru. Bydd yn cefnogi'r bobl fwyaf difreintiedig yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig gyda'r nod o gyfrannu at liniaru tlodi parhaus. Bydd yn canolbwyntio ar gamau gweithredu cymunedol, ac yn gweithio ochr yn ochr â rhaglenni eraill i leihau'r bylchau mewn addysg, sgiliau, economi ac iechyd rhwng y mwyaf difreintiedig ac ardaloedd mwy cefnog yng Nghymru.

Rydym yn hynod gwerthfawrogi eich Cydweithrediad hyd yn hyn. Mae’r cydweithio wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin a mawr obeithiwn y bydd hyn yn parhau at y dyfodol.

Hoffem eich gwahodd i ymateb i'r cynigion ac i’r 15 cwestiwn ar ddiwedd y ddogfen ymgynghori atodedig. Rydym yn y broses o gasglu ymateb Sir Gaerfyrddin gyfan a byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn. Gofynnir i chi ddychwelyd ymatebion erbyn dydd Mercher 7 Medi 2011.

Gallwch ymateb trwy:
• Ymateb ysgrifenedig – dychwelwch i Faye Davies, Neuadd y Dref Llanelli, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA15 3AH, os gwelwch yn dda
• E-bost - anfonwch eich ymateb at FSDavies@sirgar.gov.uk
Noder y gall eich ymateb gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Os byddai'n well gennych iddynt beidio â bod, nodwch hynny yn eich ymateb.

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach, mae croeso i chi gysylltu â mi ar 01554 742377

Share |