Strategaeth Gymunedol Integredig 

Croeso i Strategaeth Gymunedol Integredig gyntaf Sir Gaerfyrddin, sy'n amlinellu'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Mae aelodau o'r Bwrdd Gwasanaeth Lleol - Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Cyngor Sir Caerfyrddin, Heddlu Dyfed Powys, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Coleg Sir Gâr, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin, Asiantaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru - wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i roi y sir ar sylfaen gadarn. Bydd nifer o sefydliadau eraill o bob rhan o'r Sir hefyd yn allweddol yn llwyddiant y Strategaeth.

Bydd cynnydd yn cael ei adolygu bob chwe mis a bydd yr holl bartneriaid yn atebol am eu canlyniadau a'u nodau. Mae'r strategaeth yn hygyrch i bawb gyda fersiwn ar gyfer pobl ifanc, fersiwn plant a fersiwn crynodeb ar gael.

Datblygwyd y strategaeth newydd, sy'n rhedeg o 2011 hyd at 2016, drwy ymgynghori â chymunedau lleol, sefydliadau a grwpiau eraill. Y weledigaeth allweddol yw
" Sir Gaerfyrddin sy'n galluogi pobl i fyw bywydau iach a chyflawn drwy gydweithio i greu cymunedau cadarn, dwyieithog a chynaliadwy."

Share |