Trefniant gwirfoddol yw'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLL) sy'n dwyn ynghyd arweinwyr a phrif weithredwyr o sefydliadau allweddol, cynrychiolwyr o'r sectorau gwirfoddol a chymunedol, ac uwch was sifil o Lywodraeth Cymru.
Ei ddiben yw cynllunio gwasanaethau a goresgyn rhwystrau a phroblemau er mwyn sicrhau bod yr holl sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau yn Sir Gaerfyrddin yn gwneud hynny mewn modd sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf. Mae cynrychiolwyr y sector gwirfoddol yn sicrhau bod llais gan gymunedau lleol, ac ar yr un pryd mae'r uwch was sifil o Lywodraeth Cymru yn cynnig cyswllt rhwng buddiannau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae'r Bwrdd yn cwrdd bob deufis. Mae'r Bwrdd yn rhan o'r rhwydwaith ehangach o bartneriaethau a elwir gyda'i gilydd yn Bartneriaeth Sir Gaerfyrddin.
Mae’n goruchwylio datblygiad a gweithrediad y Strategaeth Gymunedol Integredig ar gyfer Sir Gaerfyrddin 2011-16 a bydd yn adrodd ar gynnydd i’r Fforwm Blynyddol.