Strategaeth Gymunedol Integredig 2011-2016
Croeso i Strategaeth Gymunedol Integredig gyntaf Sir Gaerfyrddin, sy'n amlinellu'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Mae aelodau o'r Bwrdd Gwasanaeth Lleol wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i roi y sir ar sylfaen gadarn. Bydd nifer o sefydliadau eraill o bob rhan o'r Sir hefyd yn allweddol yn llwyddiant y Strategaeth. Ein gweledigaeth yw Sir Gaerfyrddin sy'n galluogi pobl i fyw bywyd iach a chyflawn trwy gydweithio i greu cymunedau cadarn, dwyieithog a chynaliadwy. Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn canolbwyntio ar bump canlyniad allweddol:
- Bod pobl yn Sir Gaerfyrddin yn iachach
- Bod pobl yn Sir Gaerfyrddin yn cyflani eu potensial o ran dysgu
- Bod pobl sy'n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin ac yn ymeld â'r Sir yn ddiogel ac yn teimlo'n fwy ddiogel
- Bod cymunedau ac amgylchedd Sir Gaerfyrddin yn cynaliadwy
- Bod gan Sir Gaerfyrddin economi gryfach a mwy llewyrchus
Bydd cynnydd yn cael ei adolygu bob chwe mis a bydd yr holl bartneriaid yn atebol am eu canlyniadau a'u nodau. Mae'r strategaeth yn hygyrch i bawb gyda fersiwn ar gyfer pobl ifanc, fersiwn plant a fersiwn crynodeb ar gael.
Datblygwyd y strategaeth newydd, sy'n rhedeg o 2011 hyd at 2016, drwy ymgynghori â chymunedau lleol, sefydliadau a grwpiau eraill.