![]() |
|||
|
|||
Strategaeth Gymunedol Sir GaerfyrddinRydym wrthi'n datblygu Strategaeth Gymunedol newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Dychmygwch ei hun yn y flwyddyn 2020. Pa fath o Sir Gaerfyrddin yr ydych eisiau byw ynddi? Pa fath o ddyfodol ydych chi eisiau i’ch teulu? • Yw’r Sir Gyntaf i gael 100% o’i hegni o ffynonellau adnewyddadwy? A fedrwch chi ein helpu ni i gyrraedd ein nod a datblygu’r Strategaeth orau i Sir Gâr? Beth yw Strategaeth Gymunedol? Ynghyd ag adeiladu ar nifer o lwyddiannau’r Strategaeth Gymunedol wreiddiol yn 2004, mae’r ddogfen yn tynnu ynghyd gweledigaeth gytûn ar gyfer dyfodol Sir Gâr – un y mae’r Cyngor, sectorau cyhoeddus a phreifat, sector gwirfoddol a chymunedol a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu helpu i’w gwireddu drwy weithio ynghyd, cynllunio ynghyd a gweithredu ynghyd. Dyma’r cynllun ymbarél hir dymor am yr ardal a fydd yn dylanwadu ar ein holl weithredoedd. Pwy sy’n gyfrifol amdano? Dyletswydd y Cyngor yw paratoi strategaeth gymunedol, a dim ond trwy weithio mewn partneriaeth gyda nifer eang o asiantaethau a chymunedau y gellid ei chyflawni. Cynorthwya Partneriaeth Sir Gaerfyrddin a’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol i gadw gorolwg ar weithrediad a datblygiad y Strategaeth. Bydd Strategaeth Gymunedol yn penderfynu ar y math o Sir Gaerfyrddin yr ydym eisiau yn y dyfodol i bawb – pobl ifanc, pobl hŷn, trigolion ac ymwelwyr. Am y rheswm hynny, mae angen sicrhau bod pawb yn cael cyfle i osod y weledigaeth erbyn 2020 a chynhelir cyfres o ymgynghori ac ymarferion i grynhoi ystod eang o safbwyntiau. Rydym eisiau eich syniadau ar gyfer y dyfodol. Beth fyddai’r penawdau yn y papurau lleol? Dyma’r amser i roi gwybod i ni. Cwblhewch y slip isod a dychwelwch i’r Tîm Cynllunio Cymunedol. Mae angen rhaglen Acrobat Reader er mwyn darllen a phrintio ffeiliau PDF. Gallwch is-lwytho copi o'r rhaglen, yn rhad ac am ddim, o Wefan Adobe |
|
|||
Hafan | Gweledigaeth Sir Gaerfyrddin 2020 | Bwrdd Gwasnaeth Lleol Sir Gâr | Strategaeth Gymunedol | Eich Ardal Chi | Agor Drysau | Buddsoddi ac Arloesi | Lle Gwell | Teimlo'n Dda | Teimlo'n Ddiogel | Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc | Cyngor a Chefnogaeth Sir Gaerfyrddin | Prosiect Dyled a Budd-daliadau | Yr Iaith Gymraeg | Cydraddoldeb | 50+ Sir Gaerfyrddin | Newyddion | Agendâu a Chofnodion Cyfarfodydd | Dangosyddion Ansawdd Bywyd | Cyfeirlyfr Partneriaethau Aml-Asiantaeth | Polisi Preifatrwydd | Adborth ac Awgrymiadau | Ymwadiad |