Prosiect Budd-daliadau a Dyled - Llanelli

.jpg)
Mae Prosiect Arddangosi Wirfoddolwyr Dyled a Budd-daliadau Cymunedau Gyntaf Llanelli wedi ariannu gan Gyllid Canlyniadau, Cynulliad Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin I ddosbarthu gwasanaeth Cefnogaeth Ddyled a Budd-daliadau, wedi rhedeg gan wirfoddolwyr trwy ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Tyisha, Glanmor, Llwynhendy, Felinfoel a Bigyn 4. Bydd y prosiect hefyd yn cefnogi gwirfoddolwyr cyffredin i wella ei sgiliau ac ail hyfforddi trigolion yr ardaloedd fel bod nhw’n gallu ffeindio gwaith.
Beth yw DAB?
Mae DAB yn sefyll am Ddyled a Budd-daliadau, ac yn awgrym byr o’r teitl llawn Prosiect Arddangosi Wirfoddolwyr Dyled a Budd-daliadau Cymunedau Llanelli.
Lle ni’n gweithio?
Ni’n gweithio yn ardal Llanelli, yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Glanmor, Tyisha, Bigyn4, Llwynhendy a Felinfoel. Ar y funud ni’n rhedeg sesiynau ymestyn allan yn pob un o swyddfeydd Cymunedau Gyntaf yn yr ardaloedd ac rydym wedi dechrau cysylltu mewn gyda Chanolfannau Teuluol, prosiectau, digwyddiadau neu weithgareddau cymunedol arall yn yr ardaloedd lle mae angen ni er mwyn ceisio hwyluso’r mynediad at y gwasanaethau cymorth.
Mae’r prosiect hefyd wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn ardal Llanelli I ddatblygu prosiect peilot arwyddo o’r enw “Menter Datrys Problemau” er mwyn ceisio ffeindio cefnogaeth a chymorth i bobl.
Mae gan y prosiect swyddfa barhaol yn Glanmor & Tyisha, lle mae pobl gallu dod i drafod efo staff prosiect am wirfoddoli neu gael cefnogaeth am faterion eraill wth ein tîm o wirfoddolwyr.
Pwy ni’n helpu?
Rydym yn helpu trigolion ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Glanmor, Tyisha, Felinfoel, Llwynhendy a Bigyn 4.
Ni’n ceisio cymhwyso pobl wrth ymweld â nhw yn ardaloedd ei hun lle mae’n bosib ond allwn drefnu ymweld â nhw yn ardaloedd eraill os nag ydynt angen y cymorth o fewn ei chymdogaeth. Hefyd, bydd ddim rhaid i wirfoddolwyr sy’n dod o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf cynnig cymorth i gymdogion ei hun, allwn roi cymorth yn ardaloedd arall ni’n gweithio o fewn.
Sut Allwn Helpu?
Fel prosiect ni’n wneud dau beth:
1) Mae staff y prosiect yn helpu pobl i wirfoddoli yn wahanol ffyrdd.
2) Mae staff y prosiect a gwirfoddolwyr DAB yn cefnogi pobl sy efo problemau Dyled a Budd-daliadau.
Hoffe chi fod yn Wirfoddolwr?
Os dymunwch fod yn wirfoddolwr plis cysylltwch efo Bryony neu Chris. Wnewn helpu chi chwilio am rol wirfoddoli hoffwch wneud efo ni neu efo sefydliad arall sy’n cynnig cyfeluoedd wirfoddoli. Wrth cynnig cefnogaeth cyfedrol allwn helpu chi chwilio am hyfforddiant ar gyfer y rol hoffwch ymgymryd a os hoffwch mynd nol I gweithio wnewn helpu chi cael fwy o gefnogaeth efo’r gwasanaethau eraill sy’n gweithio yn Llanelli ar gyfer helpu pobl fynd nôl i weithio.
Bydd prosiect Dyled a Budd-daliadau angen cysylltu efo’r Swyddfa Cofnodion Troseddol am bobl bydd yn gweithio efo plant neu bobl agored i niwed.
Oes angen cymorth arnoch efo problemau Dyled?
Os oes problemau efo chi gyda dyled a chi ddim yn gwybod le i ddechrau, cysylltwch efo ni. Mae ein staff prosiect a gwirfoddolwyr yma i gefnogi chi rhoi trefn ar bethau a helpu chi cael mynediad i wasanaethau cefnogaeth arall sy’n gweithio yn ardal Llanelli gellir fod yn cynnig cymorth arbenigol lle mae angen.
Ych chi’n derbyn popeth chi fod hawlio?
Mae llawer o bobl yn gallu hawlio budd-dal neu gredyd treth nag ydynt yn ymwybodol am. Os chi angen gwybodaeth am bopeth allech fod yn hawlio gellir gwirfoddolwyr neu staff prosiect ni ymchwilio ar eich rhan chi.
Esiampl:
• Efalle gallwch hawlio Budd-dal Treth Cyngor a Thai os ydych yn derbyn incwm isel.
• Os ydych dros 65mlwydd oed ac angen cefnogaeth neu gymorth, falle allwch hawlio lwfans gweini.
• Os ydych yn gofalu am rywun sy’n derbyn Lwfans Byw I’r Anabl falle galwch hawlio Lwfans Gofalwr.
• Mae amrywiaeth o fudd-daliadau gellir Mamau ifanc fod yn hawlio.
• Os chi’n gweithio falle gallwch geisio Credydau Treth Gweithio I ychwanegu tuag at eich cyflog.
• Allwch hawlio Credyd Treth Plant heb hawlio Credyd Treth Gweithio os mae gennych o leiaf un plentyn ac yn derbyn Budd-dal Plant.
• Ych chi’n gallu hawlio Credyd Pensiwn? Ych chi wedi sicrhau?
• Mae grantiau arall ar gael, dibynnu ar eich amgylchiadau, i helpu efo costau tanwydd gaeaf neu ynysu eich tŷ.
Mae’r wybodaeth ar gael i chi mynd efo gyda chi, os mae'n amlwg bod chi’n gallu hawlio budd-daliad arall neu gredyd treth, wnewn cadarnhau pa ffurflen sydd angen a lle allwn ddod o hyd i’r ffurflen.
Allwn hefyd helpu os mae angen cymorth arnoch i ddod o hyd i’r ffurflen, a wnewn helpu chi deall a chwblhau’r ffurflen os mae angen.
Plîs ffoniwch, os na allwn helpu wnawn geisio ffeindio rhywun sy’n gallu
********* Mae’r gwasanaeth hon yn gyfrinachol *********
Am Gymorth Cysylltwch isod:
Os mae gan unrhyw un o ardaloedd Glanmor, Tyisha, Llwynhendy, Bigyn 4 neu Felinfoel diddordeb yn gwirfoddoli neu angen siarad am broblemau ariannol neu angen fwy o wybodaeth am fudd-daliadau
Manylion Cyswllt: Bryony Wiffen neu Chris Hern ar 01554 777850
Rhwng: 8.45yb - 5.00yh Llun - Iau
8.45yb - 4.30yh Dydd Gwener
Prif Swyddfa: Cymunedau Gyntaf Glanmor & Tyisha, 26-28 Inkerman Street, Llanelli, Sir Gaerfyrddin. SA15 1SA

