Partneriaeth Sir GárPage Spacer
Partneriaeth Sir Gár

Lwfans Gweini

 Bydd pobl hŷn o Sir Gaerfyrddin ymhlith y cyntaf i elwa o rwydwaith newydd a sefydlwyd i helpu pobl i ymdopi â dyled, budd-daliadau a chyllid.

Mae Cyngor a Chefnogaeth Sir Gâr yn dwyn ynghyd sefydliadau sy'n cynnig cyngor ar faterion yn ymwneud ag arian, cynilion, tai, budd-daliadau neu wasanaethau arbenigol, megis cymorth i bobl sy'n ddall neu sy'n derbyn triniaeth canser.

Mae tua 50 o sefydliadau yn rhan o'r rhwydwaith, sy'n cael ei gadeirio gan y Cynghorydd Kevin Madge, pencampwr Gwrth Dlodi y cyngor.

Yn y cyntaf o gyfres o ymgyrchoedd a gynhelir gan y rhwydwaith, mae'r cyngor yn cydweithio â Age Concern Sir Gâr a CATCH UP i annog mwy o bobl i wneud cais am Lwfans Gweini.

Mae'r budd-dal ar gael i bobl dros 65 oed sydd angen cymorth i fyw eu bywydau bob dydd, boed os oes angen cymorth gyda siopa, gwisgo neu ymolchi. Nid yw'n fudd-dal sy’n mynd drwy brawf modd,  sy'n golygu nad oes angen i bobl gyflwyno unrhyw dystiolaeth ariannol.

Dywedodd y Cynghorydd Madge, "Gall gwneud cais am Lwfans Gweini fod yn gam cyntaf tuag at sicrhau gwell dyfodol ariannol. Rydw i'n annog unrhyw un sydd dros 65 oed sy'n derbyn cymorth i gysylltu â ni - rydym yma i helpu. "

Os am wybod mwy am Lwfans Gweini, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Cyngor Sir Gâr ar 01267 234567. Bydd Age Concern Sir Gâr ar gael i drefnu apwyntiadau dilynol, cynnig cyngor dros y ffôn neu wyneb-yn-wyneb ac i helpu i lenwi ffurflenni a chyfeirio at asiantaethau eraill a fydd yn barod i gynnig cymorth.

 

 

 

 

 

 

 

 

Contacts / Cyswllt Contacts / Cyswllt Rheolydd Cynllunio Cymunedol
Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran y Prif Weithredwr
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
Ebost: cynlluniocymunedol@sirgar.gov.uk
Ffôn: 01267 224659
Partneriaeth Sir Gaerfyrddin © 2004